Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 16 Medi 2015
Amser: 09.00 -
12.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3221
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Alun Ffred Jones AC (Cadeirydd) Mick Antoniw AC Jeff Cuthbert AC Russell George AC Llyr Gruffydd AC Janet Howarth AC Julie Morgan AC William Powell AC Jenny Rathbone AC Joyce Watson AC |
Tystion: |
Carl Sargeant AC, Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol Nicola Charles, Llywodraeth Cymru Andy Fraser, Llywodraeth Cymru Lori Frater, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Alun Davidson (Clerc) Adam Vaughan (Dirprwy Glerc) Gwyn Griffiths (Cynghorydd Cyfreithiol) SeatonN (Ymchwilydd) |
1.1 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
2.1 Ymatebodd y Gweinidog a swyddogion i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.
2.2 Cytunodd y Gweinidog i:
· Ddweud wrth y Pwyllgor pa ganran o dir yng Nghymru a fyddai’n cael ei effeithio o ganlyniad i Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn gwrthod rhoi caniatâd angenrheidiol y Goron i ddeddfu Rhan 6 y Bil;
· Rhoi manylion ar sut y mae’r cynlluniau peilot mewn perthynas â ‘datganiadau ardal’ wedi perfformio, unwaith y bydd y wybodaeth ar gael;
· Cadarnhau a wnaeth yr adroddiad a gynhaliwyd gan Eunomia, a ddefnyddiwyd i lywio asesiad o effaith reoleiddiol y Bil, edrych ar ddim ond y tanciau malu traddodiadol ac nid ar biodreulwyr ensymau neu systemau adfer dŵr bwyd.
3.1 Nododd y Pwyllgor y papurau.
4.1 Derbyniodd Aelodau’r Pwyllgor y cynnig.
5.1 Trafododd Aelodau’r Pwyllgor y materion allweddol mewn perthynas â Bil yr Amgylchedd (Cymru).